Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (131)v5 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Cynnydd o ran rhoi "Ynni Cymru" ar waith (30 munud) Dogfen
Ategol |
4. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Adolygiad Cynllunio a Chyllido Ôl-16: Adroddiad Terfynol (30 munud) Dogfen
Ategol |
5. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Ymateb Llywodraeth Cymru i Argymhellion Adroddiad Guilford (30 munud) Dogfen
Ategol
|
6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Twf Swyddi Cymru - flwyddyn yn ddiweddarach (30 munud) |
7. Dadl: Cryfhau Democratiaeth Llywodraeth Leol (60 munud) NDM5237 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
cydnabod gwerth hyrwyddo democratiaeth leol sy’n agored, yn
dryloyw ac yn atebol a phwysigrwydd annog mwy o amrywiaeth mewn
Llywodraeth Leol. Dileu ‘Yn cydnabod gwerth hyrwyddo democratiaeth leol sy’n agored, yn dryloyw ac yn atebol a phwysigrwydd annog mwy o amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol’ a rhoi ‘Yn gwerthfawrogi angenrheidrwydd dadlau dros ddemocratiaeth leol sy’n effeithlon, yn agored, yn dryloyw ac yn atebol a phwysigrwydd annog mwy o amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol’ yn ei le. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ar ôl ‘amrywiaeth’ cynnwys ‘ac ymgysylltu â rhanddeiliad’ Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn y pen draw i hwyluso ffrydio byw yn ystod pob un o gyfarfodydd craffu a chabinet cynghorau. Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno agenda gynhwysfawr a fydd yn mynd i'r afael â materion yn ymwneud â bod yn agored, tryloywder ac atebolrwydd mewn democratiaeth leol a llywodraeth leol. Gwelliant 5 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau ei bod yn cefnogi datganoli cyfrifoldeb dros etholiadau llywodraeth leol i’r Cynulliad Cenedlaethol. Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cefnogi cyflwyno system etholiadol deg a chyfrannol i sicrhau bod canlyniadau yn cyfleu'r ffordd y mae pobl yn pleidleisio ac yn cynrychioli eu cymunedau lleol yn well, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu argymhelliad Comisiwn Sunderland yn 2002 drwy hyrwyddo deddfwriaeth i gyflwyno system un bleidlais drosglwyddadwy ar gyfer cynghorau lleol. Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad yw oddeutu 77,000 o bobl ifanc 16 a 17 oed yng Nghymru yn cael pleidleisio ar hyn o bryd ac yn credu y byddai atebolrwydd democrataidd yn cael ei gryfhau drwy ganiatáu i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio mewn etholiadau cynghorau lleol. |
8. Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau (5 munud) NDM5241 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd )
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Bethan Jenkins (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau yn lle Elin Jones (Plaid Cymru).
NDM5242 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd )
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Elin Jones (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Jocelyn Davies (Plaid Cymru). |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 15 Mai 2013